Ymateb y Llywodraeth: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer
Mae'r Llywodraeth yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am yr amser sydd wedi ei neilltuo i graffu ar y Cod Ymarfer drafft, a’r sylw a roddwyd i fanylion wrth wneud hynny.
Mae’r Cod Ymarfer wedi ei ddyroddi o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O dan adran 145(2) caiff Cod osod gofynion neu caiff gynnwys canllawiau (neu'r ddau). Mae'r Cod hwn yn cynnwys y ddau ac mae'r pwyntiau defnyddiol a godwyd gan y Pwyllgor yn ymwneud yn unig â darpariaethau'r Cod nad ydynt yn gosod gofynion. Er hynny, mae'r Llywodraeth yn nodi'r materion a godwyd.
Fodd bynnag, cynigir gyda pharch mai mân faterion golygyddol yw’r rhain ac, er eu bod yn faterion i’w cywiro, nad ydynt yn newid gweithrediad y Cod na’i effaith.
O ystyried y sylw hwn, mae’r Llywodraeth yn cynnig i’r Pwyllgor fod y Llywodraeth yn gwneud y cywiriadau golygyddol, fel y’u hamlinellir yn fanylach isod, cyn dyroddi’r Cod Ymarfer. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod hwn yn ymateb pragmatig a chymesur a fydd yn sicrhau bod y Cod Ymarfer yn cael ei gyhoeddi heb amhendantrwydd, nac oedi diangen.
Pwynt craffu 1:
a. Nid oes dyddiad wedi ei gynnwys yn y cyfeiriad at "Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru)" ym mharagraff 1.19, gan nad yw'r Rheoliadau wedi eu gwneud eto. Cynigir diwygio paragraff 1.19 fel a ganlyn, er mwyn i hynny fod yn glir.
Bydd Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) yn cael eu gwneud o dan adran 10A o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006. Mewnosododd adran 3 o Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 (y Ddeddf gaffael) bŵer i wneud y rheoliadau hyn yn Neddf y GIG (Cymru) 2006. Yn ogystal, mewnosododd adran 2 o'r Ddeddf gaffael bŵer i wneud rheoliadau yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddatgymhwyso caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru o'r gyfundrefn gaffael newydd o dan y Ddeddf gaffael. Dibynnir ar y pŵer hwn i wneud y rheoliadau hyn hefyd.
b. Bydd troednodyn/hyperddolen yn cael eu hychwanegu ym mharagraff 1.68 ar gyfer y cyfeiriad at Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Ym mharagraff 1.68 y mae'r unig gyfeiriad at y Mesur yn y Cod.
c. Bydd troednodyn/hyperddolen yn cael eu hychwanegu ym mharagraff 1.94 ar gyfer y cyfeiriad at yr offeryn hunanasesu a'r hyfforddiant rhagarweiniol.
d. Yn yr Eirfa yn y testun Saesneg, bydd paragraff olaf y cofnod ar gyfer "Carer" yn cael ei ddiwygio i gyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan ddefnyddio'r term diffiniedig "the Act".